AC(4)2011(6) Papur 3
Dyddiad: 24 Tachwedd 2011
Amser: 9.30-11.30
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd
Enw’r awdur a’i rhif ffôn: Dianne Bevan,
8991
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Rheoli Carbon
1.0 Diben a chrynodeb o’r materion
2.0 Argymhellion
2.1 Argymhellir bod y Comisiwn:
a. yn nodi’r llwyddiant o ran cyrraedd ein targed lleihau carbon ym Mlwyddyn 2 (2010-11);
b. yn ystyried ei strategaeth Rheoli Carbon ar gyfer y dyfodol; ac
c. yn ystyried, mewn egwyddor, y gwaith a fydd yn angenrheidiol i helpu i leihau carbon ymhellach.
3.0 Strategaeth
3.1 Ym mis Tachwedd 2009, cymeradwyodd y Comisiwn blaenorol Strategaeth Rheoli Carbon a chytunodd i gyflawni’r nod o fod yn Gynulliad carbon niwtral erbyn 2015. Prif amcanion y strategaeth yw:
· cyrraedd targedau lleihau allyriadau blynyddol o 8 y cant ar gyfer ynni a 3 y cant ar gyfer lleihau teithio ar fusnes (cyfanswm o 40 y cant erbyn 2015); a
· bod yn Gynulliad carbon niwtral erbyn 2015 (gan ganolbwyntio ar leihau allyriadau fel bod y carbon mor isel â phosibl ac ystyried yr achos dros wrthbwyso carbon yn y pen draw).
3.2 Mae strategaeth Comisiwn newydd y Pedwerydd Cynulliad yn cynnwys amcanion i hyrwyddo Cymru a gwaith y Cynulliad ac i ddefnyddio adnoddau’n ddoeth. Mae Deddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau gan roi sylw dyledus i egwyddor hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Cawn ein cydnabod fel corff seneddol blaenllaw o ran cynaliadwyedd ac mae’r strategaeth Rheoli Carbon yn cefnogi hyn.
3.3 Nid yw’r Cynulliad yn cymryd rhan gyflawn yng Nghynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon[1] gan fod ein hôl troed carbon o ran ynni yn is na’r trothwy ar hyn o bryd. Ymhen amser, bydd trothwy’r cynllun yn gostwng, ond cyhyd â’n bod yn parhau i leihau ein defnydd o ynni, mae’n debygol y byddwn yn parhau i fod wedi ein heithrio. Rydym wedi cofrestru ‘datgeliad gwybodaeth’, sy’n cynnwys ein data ynni yn unol â chanllawiau’r cynllun.
3.4 Er mwyn parhau â’r cynnydd a wnaed a chyflawni’r amcanion a bennwyd yn 2009, byddai angen buddsoddi yn Nhŷ Hywel, yr adeilad sy’n creu’r swm mwyaf o garbon. Mae’r papur yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn nodi’r buddsoddiad fydd ei angen i sicrhau bod y cynnydd hwn yn parhau. Bydd y Comisiwn am ystyried ei strategaeth ar gyfer y dyfodol yn y cyd-destun hwn.
4.0 Y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y strategaeth
4.1 Mae Atodiad A yn rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd a wnaed hyd yma a’r camau gweithredu a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol fel rhan o’r strategaeth. Yn gryno, ym Mlwyddyn 2 (2010-11), llwyddwyd i sicrhau gostyngiad o 11.1 y cant yn yr allyriadau ynni drwy’r ystâd. Roedd hyn 31 y cant yn fwy na’n cyfrifiadau gwreiddiol ac mae’n cyfateb i arbediad o 182 tunnell o garbon a chostau o £50,000.
4.2 Yn debyg i Flwyddyn 1, rydym wedi lleihau ein hallyriadau sy’n deillio o deithio ar fusnes 18.7 y cant, gan wella ar y targed gwreiddiol unwaith eto, sef 3 y cant y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i arbediad o 40 tunnell o garbon a chostau o £61,000 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n bosibl, wrth inni wneud cynnydd yn y Pedwerydd Cynulliad, y bydd rhagor o deithio ar fusnes, i gyd-fynd ag amcan strategol y Comisiwn newydd o hyrwyddo Cymru yn y byd ehangach.
4.3 Yn gyffredinol, rydym wedi sicrhau gostyngiadau o 19 y cant hyd yma o ran ein hallyriadau ar sail y targed o 40 y cant erbyn 2015, sy’n cyfateb i arbediad o 465 tunnell o garbon.
5.0 Edrych i’r dyfodol
5.1 Er y cafwyd cynnydd da iawn hyd yma, gwnaethom gyflawni hyn drwy fuddsoddi ychydig iawn o arian a chymryd camau cymharol rwydd. Bydd angen i ni gymryd camau arwyddocaol i gynnal y cynnydd a wnaed ac i gyrraedd y targedau a bennwyd gan y Comisiwn blaenorol. Yn benodol, bydd angen gwneud rhagor o addasiadau i DŷHywel. Dim ond drwy fuddsoddi mewn technoleg gydnabyddedig y bydd modd sicrhau bod perfformiad Tŷ Hywel yn gwella yn y tymor hir, a bydd hyn yn ein helpu i gyrraedd ein targedau a sicrhau nad ydym mor agored i gostau ynni sy’n codi.
5.2 Ein dull presennol o oeri Tŷ Hywel drwy ddefnyddio system aerdymheru yw’r dull sy’n creu’r swm mwyaf o garbon yng ngweithrediad yr adeilad. Byddai modd newid y system aerdymheru, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, drwy gael ffenestri newydd sydd wedi’u cynllunio’n well ac sy’n rhannol awtomatig, a fydd yn cefnogi dull awyru naturiol effeithlon. Mae amcangyfrifon cost am waith o’r fath wedi’u llunio yn dilyn astudiaethau ymarferoldeb a wnaethpwyd yn broffesiynol gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Garbon ac Arup Ltd. Mae’r costau’n sylweddol - yn agos at £4 miliwn i gael ffenestri newydd yn NhŷHywel - er y bydd angen prynu ffenestri newydd o fewn oddeutu'r 10 mlynedd nesaf beth bynnag fel rhan o’n cyfrifoldebau i gynnal a chadw’r adeilad am gost amcangyfrifiedig o £1.7 miliwn.
5.3 Ar sail arbedion a amcangyfrifir o gostau ynni ar hyn o bryd yn unig, a heb ystyried yr angen i brynu ffenestri newydd beth bynnag, byddai’r buddsoddiad hwn yn cael ei ad-dalu mewn 19 mlynedd. Pe bai costau ynni’n codi, byddai’r cyfnod talu’n ôl yn llai. Gan ystyried yr angen i brynu ffenestri newydd beth bynnag, byddai costau ychwanegol yr opsiwn awyru naturiol yn lleihau’r cyfnod talu’n ôl i 16 mlynedd. Os byddwn hefyd yn defnyddio lefel chwyddiant o 5 y cant mewn costau ynni, bydd hyn yn lleihau’r cyfnod talu’n ôl i 12 mlynedd. Byddai’r Cynulliad yn arbed oddeutu 800 tunnell o allyriadau carbon o gymharu lefel presennol yr allyriadau a lefel yr allyriadau a ragfynegir ar ôl buddsoddi a byddai’n cynnal y lefel is hwn o allyriadau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Byddai hyn hefyd yn lleihau neu’n dileu’r angen i wrthbwyso carbon, sydd hefyd yn costio arian.
5.4 Er mwyn asesu manteision dull gweithredu o’r fath, byddai modd i ni brofi’r ffenestri rhannol-awtomatig mewn rhan addas o Dŷ Hywel am flwyddyn. Amcangyfrifir y byddai angen £0.4 miliwn fel buddsoddiad cychwynnol ar gyfer hyn. Yn amodol ar ganlyniad y cynllun peilot, mae’n bosibl y gellid prynu rhagor o ffenestri newydd drwy’r adeilad fesul cam dros gyfnod o bum mlynedd, fel rhan o’n rhaglen fuddsoddi flynyddol.
6.0 Casgliad
6.1 Mae’r strategaeth Rheoli Carbon yn hynod o werthfawr o ran hybu datblygu cynaliadwy a lleihau effaith gweithgareddau’r Cynulliad ar yr amgylchedd. Mae’r cynnydd yn yr ail flwyddyn yn dda iawn ac mae’n datblygu llwyddiant y flwyddyn gyntaf i ddarparu llwyfan cadarn ar gyfer sicrhau lleihad pellach mewn carbon. Ond, o gofio graddfa’r camau y bydd angen eu cymryd yn y dyfodol i weithredu’r strategaeth, mae’n gywir bod y Comisiwn newydd yn adolygu’r ymrwymiadau hyn.
1.0 Y Strategaeth Rheoli Carbon – y cynnydd hyd yma
1.1 Yn 2008-09, roedd ôl troed carbon y Cynulliad yn 2,890 tunnell o CO2. Deuai’r rhan fwyaf o hwn o ddwy brif ffynhonnell:
i) y defnydd o ynni yn adeiladau’r Cynulliad; a
ii) teithio ar fusnes (yn y gwaith).
1.2 Mae’r Cynllun Rheoli Carbon yn gosod targed o 40 y cant i leihau allyriadau CO2, sydd i’w gyrraedd erbyn 2015. Roedd y cynllun i weithredu’r strategaeth Lleihau Carbon yn cynnwys rhestr o brosiectau a allai gynhyrchu 380 tunnell yn llai o allyriadau carbon dros gyfnod y rhaglen.
Tabl 1.0 Y cynnydd hyd yma o ran y prosiectau hyn
Manylion y pecynnau gwaith a ddewiswyd |
Y cynnydd hyd yma |
Model cyfredol yr adeilad presennol i asesu pa mor ymarferol yw’r opsiynau awyru naturiol. |
Mae profion ac astudiaethau ymarferoldeb ar yr adeilad wedi dangos y gellir newid yn ôl i gael system awyru naturiol yn llwyddiannus. |
Goleuadau sy’n synhwyro symudiadau drwy’r adeilad |
Mae’r rhaglen barhaus i osod goleuadau PIR drwy’r swyddfa’n parhau i gael ei rhoi ar waith, yn ddibynnol ar y gyllideb sydd ar gael. Mae oddeutu 500 o oleuadau i’w newid o hyd yn Nhŷ Hywel. |
Synwyryddion PIR mewn ystafelloedd cyfarfod, systemau aerdymheru a goleuadau’r meysydd parcio. |
Mae synwyryddion PIR wedi’u gosod mewn ystafelloedd cyfarfod a chynadledda gydag unedau aerdymheru unigol. Felly, bydd yr unedau hyn yn diffodd yn awtomatig pan fydd yr ystafelloedd hyn yn wag. Cysylltwyd synwyryddion PIR hefyd â’r goleuadau yn y maes parcio tanddaearol er mwyn galluogi’r goleuadau i ddiffodd pan na fydd pobl yn bresennol yn y maes parcio hwnnw. |
Ffitiadau T5 (i gymryd lle’r ffitiadau T8 presennol) |
Gosodwyd hwy drwy’r adeilad. |
Goleuadau LED yn y meysydd parcio |
Mae goleuadau LED mwy effeithiol wedi’u gosod yn y maes parcio allanol |
Man penodol i ddefnyddio dŵr poeth domestig trydanol |
Gosodwyd hwy ym mhob cegin staff a mannau gwneud te, a gosodwyd switshis amseru fel bod y rhain yn cael eu diffodd y tu allan i oriau gwaith yn y swyddfa. |
Gwelliannau i’r system awyru mecanyddol |
Gweler y gyriannau cyflymder amrywiol isod. |
Gwella dulliau adfer gwres |
Gwnaed addasiadau i uned trin awyr bloc B er mwyn gwella dulliau adfer gwres yn y fan hon. |
Pympiau/gwyntyllau cyflymder amrywiol |
Gosodwyd gyriannau cyflymder amrywiol ym mhob gwyntyllydd a phwmp er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni'r systemau cynhesu ac oeri. |
Inswleiddio waliau a thoi (yn unol â’r rheoliadau) |
Strategaeth tymor hwy barhaus |
Gwella effeithlonrwydd boeleri a pheiriannau oeri |
Gosodwyd modelau mwy effeithlon o ran ynni yn lle dau o’r tri oerwr. Mae prynu boeleri newydd yn rhan o’r strategaeth yn y tymor hwy. |
Gwella ymdreiddiad |
Mae hidlyddion awyr effeithiol iawn wedi’u lleoli ar unedau trin awyr er mwyn gwella llif yr awyr. Caiff yr hidlyddion eu hadnewyddu o bryd i’w gilydd yn ôl y gofyn. |
Strategaeth awyru sy’n defnyddio dulliau cymysg |
Paratowyd manyleb a chostau llawn, ynghyd â chynllun manwl o’r gwaith arfaethedig ar gyfer yr arbrawf ar y llawr cyntaf yn Nhŷ Hywel. Defnyddir y safle hwn i brofi’r cynllun er mwyn penderfynu a oes modd gwireddu egwyddorion sylfaenol y system awyru naturiol. |
System awyru cwbl naturiol |
Mae strategaeth arfaethedig ar gyfer y tymor hwy yn mynd rhagddi |
1.3 Ym Mlwyddyn 2, datblygwyd cynllun gweithredu ychwanegol, a nodir y cynnydd ar sail y camau gweithredu hyn isod.
Tabl 2.0 Y cynnydd hyd yma yn ôl y camau allweddol a nodwyd ym Mlwyddyn 2
Manylion am y camau a ddewiswyd |
Cynnydd hyd yma |
Asesu arbedion effeithiolrwydd yn sgil diffodd offer TGCh newydd yn awtomatig |
Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd a, phan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, caiff y canlyniadau eu cyhoeddi. |
Gwella arferion deiliaid yr adeilad drwy gyfathrebu’n uniongyrchol â hwy ynghylch materion amgylcheddol |
Rhan o’r strategaeth ar gyfer gwella dulliau casglu data a thechnegau dadansoddi i hwyluso’r dasg o gyflwyno adroddiadau rheolaidd ynghylch perfformiad. |
Cyhoeddi data perfformiad yn fisol er mwyn annog perchnogaeth o ffigurau defnyddio ynni. |
Gweler uchod. |
Adolygu safleoedd y gweinyddion cyfrifiadurol |
Mae safleoedd y gweinyddion cyfrifiadurol wedi’u hadolygu er mwyn gwella eu heffeithlonrwydd o ran defnyddio ynni a lleihau’r lefelau oeri. |
Asesu pa mor ymarferol yw cael system oeri am ddim ar gyfer gweinyddion cyfrifiadurol Tŷ Hywel yn ystod misoedd y gaeaf. |
Rhoddwyd hyn ar waith yn llwyddiannus gan ddefnyddio awyr oer o’r maes parcio tanddaearol i oeri ystafell y gweinyddion ar y llawr gwaelod. Mae’r awyr yn ddigon oer i’w ddefnyddio am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. |
1.4 Nodwyd gennym hefyd y byddem yn sicrhau’r gostyngiad o 380 tunnell sy’n weddill drwy System Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Mae hyn yn parhau i fod yn hynod o effeithiol o ran hybu newid diwylliannol, gwella ymgysylltiad staff a newid meddyliau a dyheadau.
1.5 Y lleihad yng nghyfanswm yr ynni a ddefnyddir a’r cynnydd yn y dewisiadau cynaliadwy ar gyfer teithio ar fusnes yw’r arwyddion amlycaf bod cynaliadwyedd yn dechrau cael ei ymgorffori mewn busnes bob dydd. Ond, bydd yr heriau mwy, fel gweithio mewn lleoliadau a gaiff eu hawyru’n naturiol, y cynnydd yn nifer y bobl sy’n gweithio gartref a’r ffaith bod rhannau o’r adeilad yn cael eu cau yn ystod rhai tymhorau, yn ei gwneud yn ofynnol bod rhagor o newidiadau hyd yn oed yn cael eu derbyn.
1.6 Mae’r tabl isod yn crynhoi sut y mae’r cynnydd a wnaed o ran y camau a gymerwyd wedi lleihau allyriadau CO2 ac wedi arwain at arbedion cost.
Tabl 1.1 Arbedion Carbon ac Arbedion Cost
|
Ynni (tC02e)[2] |
Teithio ar fusnes (tC02e)* |
Cyfanswm |
2008-09 (blwyddyn sylfaen) |
2,653 |
237 |
2,890 |
2009/10 (blwyddyn 1) |
2,441 |
194 |
2,635 |
Arbediad Carbon (tC02e) |
212 |
43 |
255 |
Arbediad Cost (£) |
£50,000 |
£150,000[3] |
£200,000 |
2010/11 (Blwyddyn 2) |
2,188 |
154 |
2,342 |
Arbediad Carbon
(tC02e) |
253 |
40 |
293 |
Arbediad cost
(£) |
£50,000 |
£61,2502 |
£111,250 |
Edrych i’r dyfodol – Blwyddyn 3
1.7 Bydd Blwyddyn 3 yn y strategaeth yn canolbwyntio ar yr arbrawf awyru naturiol ar lawr cyntaf Tŷ Hywel, gyda chymorth rhaglen gyfathrebu bwrpasol i hysbysu deiliaid y llawr cyntaf ynghylch y prosiect, i’w cynnwys ac i ymgysylltu â hwy. Ategir hyn gan y rhaglen barhaus i wella’r adeilad a rheoli ynni mewn modd strategol er mwyn nodi rhagor o gyfleoedd i leihau’r defnydd o ynni.
1.8 Her allweddol ar gyfer y Cynulliad, ac yn benodol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn safle’r arbrawf, fydd deall, cynorthwyo a chroesawu’r broses o drosglwyddo i system awyru naturiol a dangos parodrwydd i weithio’n hyblyg yn ôl y gofyn pan fydd y gwaith adeiladu angenrheidiol yn digwydd. Er mwyn cynnig y siawns gorau o gael canlyniad llwyddiannus, bydd angen sicrhau bod adnoddau ar gael i ariannu a chefnogi’r buddsoddiad sylweddol hwn er mwyn sicrhau mantais yn y tymor hir.
1.9 Mae cynllun gweithredu’r Ddraig Werdd ar gyfer 2011-12, sy’n cefnogi’r strategaeth, wedi’i adolygu’n ddiweddar gan y grŵp Clear Skies fel rhan o adolygiad rheoli blynyddol y Ddraig Werdd. Nodwyd y cynnydd a wnaed a’r camau sy’n angenrheidiol i’n cynorthwyo i gyflawni’r gostyngiad o 8 y cant yn y drydedd flwyddyn. Parheir i fonitro sut y gweithredir y cynllun drwy gydol y flwyddyn.
1.10 Mae hwn yn gweithio ar y cyd â’r pecyn gwaith arfaethedig ar gyfer gwella system rheoli’r adeilad ym mlwyddyn 3 a welir isod:
Cynllun Gweithredu – Blwyddyn 3
Manylion am y camau a ddewiswyd |
Comisiynu arbrawf awyru naturiol i’w gynnal ar lawr cyntaf Tŷ Hywel |
Parhau i osod synwyryddion PIR drwy Dŷ Hywel. |
Datblygu dull integredig sy’n canolbwyntio ar reoli ynni a lleihau carbon |
Cynnal asesiad cynhwysfawr o offer technoleg gwybodaeth ac offer electronig y Senedd er mwyn nodi rhagor o gyfleoedd i leihau’r defnydd o ynni. |
Defnyddio Prosiect Adnewyddu’r Senedd fel cyfle i nodi rhagor o welliannau o ran cynaliadwyedd |
Gwella arferion deiliaid yr adeilad drwy gyfathrebu’n uniongyrchol â hwy ynghylch materion amgylcheddol. |
Cyhoeddi data perfformiad bob mis er mwyn annog perchnogaeth o’r rhaglen gynaliadwyedd. |
Cynnal rhagor o arbrofion â haen Solaveil mewn mannau lle gellir gwneud y defnydd mwyaf o olau’r haul. |
Asesu pa mor ymarferol yw ffrydio dŵr llwyd sydd dros ben o’r Senedd i Dŷ Hywel at ddibenion tynnu dŵr yn y toiledau. |
Uwchraddio a/neu adnewyddu’r system rheoli adeiladau fel rhan o’r contract newydd i reoli cyfleusterau. |
Ymchwilio i weld pa mor ymarferol yw gosod paneli PV solar ar do’r Senedd i ddarparu trydan adnewyddadwy. |
Sichrau ein bod yn gwybod am ddatblygiadau technolegol newydd er mwyn nodi cyfleoedd i wella ein perfformiad cynaliadwy. |
1.11 Bydd y camau gweithredu a nodwyd uchod yn arwain at ragor o arbedion ariannol ac at ostyngiad mewn allyriadau carbon. Dylid nodi nad yw arbedion ariannol a sicrheir wedi’u neilltuo a’u hail-fuddsoddi mewn rhagor o fentrau cynaliadwyedd ar hyn o bryd, ac efallai bod hyn yn rhywbeth y byddai modd ei ystyried ar gyfer y dyfodol.
2.0 Gwrthbwyso
2.1 Nodwyd yn y strategaeth Rheoli Carbon mai ein ffocws hyd at 2015 fydd lleihau carbon yn unig. Yn unol â hyn, nid ydym wedi gwrthbwyso dim allyriadau ym Mlwyddyn 2. Er ein bod wedi cynnig gwrthbwyso allyriadau a ddaw o deithio awyr a defnydd o geir preifat Aelodau ar unwaith, ni fu angen gwneud hyn o ganlyniad i’r gostyngiad parhaus mewn teithio ar fusnes.
2.2 Fodd bynnag, wrth gydnabod pwysigrwydd yr amcan strategol newydd i ‘Hyrwyddo Cymru’, ac o ystyried effaith bosibl hyn ar deithio, byddwn yn monitro ac yn annog dewisiadau teithio cynaliadwy lle bo hynny’n bosibl er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o gyflwyno dulliau gwrthbwyso.
2.3 Pe byddem yn dewis mabwysiadu dulliau gwrthbwyso ym Mlwyddyn 3, bydd yr adnoddau ariannol y bydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y gyllideb.
[1] Cynllun gorfodol i sicrhau effeithlonrwydd ynni drwy’r DU sy’n berthnasol i sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
[2] Yn y cyfnod rhwng cynnal y broses o gyfrifo ôl troed carbon y Cynulliad drwy’r Cynllun Rheoli Carbon, a’r flwyddyn bresennol, mae Groundwork Wales – y sefydliad sy’n gyfrifol am weinyddu System Amgylcheddol y Ddraig Werdd – wedi penderfynu mabwysiadu ffactorau trosi Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer adrodd ynghylch nwyon tŷ gwydr oherwydd cânt eu diweddaru’n flynyddol. Mae hyn wedi arwain at ail-gyfrifo’r ffigurau ym mlwyddyn y llinell sylfaen (2008-09), sydd wedi arwain at gynnydd cyffredinol yn allyriadau ynni’r Cynulliad a gostyngiad yn yr allyriadau ar gyfer teithio. Nid yw hyn wedi newid yr ôl troed carbon cyffredinol yn sylweddol.
[3] Er bod yr arbediad carbon oddeutu’r un fath dros y ddwy flynedd, deilliodd yr arbediad cost sylweddol yn y flwyddyn gyntaf o ostyngiad mawr mewn teithio awyr, tra, yn yr ail flwyddyn, sicrhawyd arbedion carbon o ganlyniad i leihad yn y defnydd o geir yn unig, a arweiniodd felly at lai o arbedion cost.